Brawddeg cyflwyniad Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit. Fusce in ante facilisis, egestas nunc et, porttitor magna. Mauris velit tortor, consectetur id sapien vitae, suscipit sagittis tellus. Quisque faucibus fringilla lacus, sit amet rhoncus tortor pellentesque sed. Mauris felis libero, commodo eget lobortis eget, porta sit amet libero. Integer volutpat, nulla ut euismod vehicula, arcu massa aliquam ante, at feugiat metus purus egestas sapien. Nulla ultrices sapien at augue luctus, eget convallis metus elementum. Suspendisse dui lectus, consectetur vitae commodo at, aliquet at turpis. Integer volutpat sapien ut ipsum molestie pellentesque. Duis ultricies quis nibh sed imperdiet. In faucibus tincidunt risus sit amet consectetur. Aenean non diam eu ipsum tempor cursus mollis non massa. Cras id neque egestas leo ullamcorper venenatis egestas non dui. Etiam id ullamcorper leo. Duis convallis mi metus, vitae cursus ex bibendum eget.

RHAGAIR

Yma yng Ngwynedd, mae gennym hanes economaidd cryf y gallem ymfalchïo ynddo. O’n cymunedau chwarelyddol byd-enwog i’n prifysgol a’n pwerdai - mae pob cwr o Wynedd yn dyst i ddyfeisgarwch a blaengarwch sylweddol.

Ond nid ydym am fodloni ar y gorffennol. Heddiw, mae digon o botensial yma yng Ngwynedd – yn ein trigolion, ein cymunedau a’n entrepreneuriaid; ond nid yw’r potensial hwnnw yn cael ei wireddu bob tro. Mae bwlch sylweddol o hyd rhwng perfformiad yr economi yng Ngwynedd a Cymru a’r Deyrnas Gyfunol (DG) ar gyfartaledd.

Braint felly yw cael cyflwyno’r Strategaeth Economaidd hon sy’n gosod yn glir ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau hirdymor ar gyfer economi Gwynedd:

“Economi arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy’n cryfhau’r Gymraeg, yn creu cyfleoedd newydd ac yn cyfrannu at lesiant pawb.”

Nid twf er ei fwyn ei hun yw ein bwriad. Rhaid creu economi sy’n dod â budd i bawb drwy greu cyflogaeth newydd, lleihau tlodi a gwella ansawdd bywyd ledled y sir. Dyma economi fydd yn rhoi i’n pobl y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i aros neu ddychwelyd i’w cymunedau, a ffynnu. A dyma economi fydd yn cryfhau ac yn gwarchod y Gymraeg a’r amgylchedd. Wrth galon hyn, bydd mentrau Gwynedd yn gwireddu eu llawn botensial, yn wydn ac yn tyfu, a bydd y cyfoeth rydyn ni’n ei greu yn aros yn lleol.Mae’n weledigaeth sy’n ymateb i’r alwad am ffyniant a fynegwyd gan drigolion Gwynedd yn yr ymgynghoriad Ardal Ni. Clywsom alwadau am swyddi cyflog uwch llawn-amser, am economi fwy sefydlog ac amrywiol, am ganol trefi bywiog, ac am gyfleoedd i’n pobl ifanc ffynnu yng Ngwynedd.

Rydym eisiau economi sy’n rhoi cyfle i bawb fyw bywydau cyflawn a gwireddu eu llawn botensial, ac economi sy’n cryfhau’r cyfoeth naturiol a diwylliannol sy’n gwneud ein sir mor unigryw.

Ffyniant sydd nid yn unig yn gynaliadwy felly, ond sy’n gynhwysol a theg ac yn adfer cyfoeth cymunedol, naturiol a diwylliannol ein sir.

Gyda newidiadau economaidd sylweddol ar droed, mae cyfle cyffrous o’n blaenau i wneud Gwynedd yn gyrchfan rhagoriaeth mewn diwydiannau newydd – yn y diwydiannau creadigol a digidol, gwasanaethau proffesiynol, ynni glân a gweithgaredd carbon isel, y gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu uwch ac awyrofod. Yn yr un modd, rhaid ein bod yn gefn i’r diwydiannau hynny sydd eisoes yng Ngwynedd ac yn hanfodol i’n cymunedau, mentrau a’n trigolion – gyda’r ail arwynebedd mwyaf yng Nghymru o ran tir amaeth, er enghraifft, rhaid parhau i feithrin ac ychwanegu gwerth at ein sectorau traddodiadol, fel amaeth a thwristiaeth, fel sylfaen gadarn a rhan lawn o economi fodern ac arloesol.

Yn sgil hyn, mae angen llais clir a chryf i lywio datblygu sy’n effeithio arnom a chadw buddion yn lleol. I’r pwrpas hwn y lluniwyd y Strategaeth Economaidd hon. Mae’n cydnabod y bydd angen cydweithio â phartneriaid ar bob lefel a dylanwadu arnynt os am fanteisio ar gyfleoedd a goresgyn heriau, ac wrth i’r tirlun ariannu a pholisi economaidd newid, bydd gwerth a phwysigrwydd cydweithio yn cynyddu.

Edrychwn ymlaen at weld y Strategaeth Economaidd hon yn cyflawni’i gweledigaeth.

Cyng. R. Medwyn Hughes

Aelod Cabinet Economi a Chymuned
Cyngor Gwynedd

Proffil Economi Gwynedd

Blaenoriaethau

Fforwm Economi Gwynedd

Cynllun
Cyflawni