Brawddeg cyflwyniad Proffil Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit. Fusce in ante facilisis, egestas nunc et, porttitor magna. Mauris velit tortor, consectetur id sapien vitae, suscipit sagittis tellus. Quisque faucibus fringilla lacus, sit amet rhoncus tortor pellentesque sed. 

PROFFIL ECONOMI GWYNEDD

Gwynedd yw’r ail sir fwyaf yng Nghymru o ran maint. Wedi’i lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru, mae Gwynedd yn ymestyn o Fae Ceredigion yn y gorllewin hyd at lannau Afon Menai yn y gogledd, gyda rhan sylweddol o’r sir o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r ddaearyddiaeth hon yn siapio dosbarthiad gofodol y boblogaeth gyda’r mwyafrif yn byw ar hyd yr arfordir a’r tir isel, yn enwedig yng ngogledd y sir, a’r gweddill mewn pentrefi, trefi llai neu yng nghefn gwlad.

Mae Gwynedd yn sir arbennig gyda chyfoeth diwylliannol ac amgylcheddol eithriadol. Gwynedd yw’r sir â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ac mae 92% o ardaloedd lleol y sir * uwchlaw trothwy dwysedd Cymraeg uchel y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Mae’r sir hefyd yn amgylcheddol gyfoethog ac yn cynnwys mynyddoedd Eryri, Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn, a Pharth Biosffer Bro Dyfi. Mae yma hefyd dreftadaeth fyd-enwog ac unigryw a adlewyrchir yn y ddau Safle Treftadaeth y Byd UNESCO - Cestyll Edward I a Thirwedd Llechi Gwynedd.